Dyma gyfres o wersi syml ar sylfaeni Javascript, yn arwain i adeiladu app syml.
Mae'r 9 wers gyntaf yn canolbwyntio ar Javascript, gyda'r 10ed yn cyflwyno'r app.
Defnyddir http://eloquentjavascript.net/paper.html ar gyfer profi'r côd.
Os wyt ti'n defnyddio Chrome, mae hefyd posib i ddefnyddio'r Developer Tools. Pwysa F12, yna dewis Console.
A fel thema i'r gwaith, defnyddir un o ffilmiau gorau'r Brodyr Cohen - The Big Lebowski - ar gyfer ein engreifftiau. Mae trailer ar gael i'r rhai anffodus sydd heb weld y ffilm. Dwi hefyd yn taflu rhai ffilmiau eraill i mewn yma ac acw.
Os ti angen help, mae croeso i ti gysylltu â mi yma, neu ar twitter.
Mae'r gwersi o fewn y ffolderi uchod. Bydd esboniad o fewn y README.md, a'r cod o fewn y ffeiliau Javascript (sy'n gorffen â .js).
Byddaf yn defnyddio'r rheolau canlynol ar gyfer fformatio testun y gwersi.
- Bydd termau arbennig mewn italics
- Bydd unrhyw dermau rhaglennu neu gôd yn ymddangos mewn ffont monospace, e.e.
var enw = 'Mei';