Dyma'r elfen sgwrsfot ar gyfer Macsen - meddalwedd cynorthwyydd personol digidol rydyn ni’n defnyddio i ddatblygu technoleg lleferydd a deallusrwydd artiffisial Cymraeg - sydd yn adnabod bwriad o fewn testun ac sy'n ymateb gydag ateb ac/neu ddata i alluogi Macsen i ymateb yn gywir ac yn ystyrlon.
Dyma enghraifft o'i ddefnydd:
Beth fydd y tywydd yfory ym Mhwllheli?
https://localhost:5455/perform_skill?text=Beth+fydd+y+tywydd+yfory+ym+Mhwllheli%3F
{
"intent": "beth.fydd.y.tywydd",
"version": 1,
"success": true
"result":
[
{
"url": "",
"title": "Dyma tywydd yfory gan OpenWeatherMap ar gyfer Pwllheli.",
"description": ""
},
{
"title": ""
"description": "Yfory am 9 o'r gloch yn y bore bydd hi'n bwrw glaw a'r tymheredd fydd 8 gradd Celsius.",
"url": "",
},
{
"title": ""
"description": "Yn hwyrach yfory am hanner dydd bydd hi'n bwrw glaw a'r tymheredd yn 9 gradd Celsius.",
"url": "",
}
],
}
Defnyddir hybrid o lyfrgelloedd adnabod bwriad cod agored Padatious ac Adapt gan MyCroft.ai, yn ogystal a cydrannau ieithyddiaeth Cymraeg.
Mae'r sgwrsfot yn medru adnabod sawl bwriad (neu dymuniad) o bump sgil (neu parth). Gwelir y sgiliau yn:
https://github.com/techiaith/macsen-sgwrsfot/tree/master/server/assistant/skills
Gwelir bwriadau pob sgil o fewn eu is-ffolder intent
. e.e.
https://github.com/techiaith/macsen-sgwrsfot/tree/master/server/assistant/skills/spotify/intents
Mae'r ffolderi intents
yn cynnwys data ar gyfer hyfforddi Padatious ac Adapt.
Bydd angen cyfrifiadur gyda docker (https://www.docker.com/get-started) wedi'i osod arno eisoes. Bydd angen i chi drefnu allweddi API eich hunain i'r gwasanaethau allanol canlynol:
- OpenWeatherMap (https://openweathermap.org/api)
- TimezoneDB (https://timezonedb.com/api)
- Spotify (https://developer.spotify.com/documentation/web-api/)
A'u rhoi mewn ffeiliau apikey.py
o fewn is-ffolder yn y sgil berthnasol.
Diolch i docker, mae'r proses gosod popeth arall yn hawdd iawn. Agorwch ffenestr 'Terminal' ar eich cyfrifiadur, ac o fewn ychydig iawn o orchmynion bydd y sgwrsfot yn rhedeg ar eich system:
$ git clone https://github.com/techiaith/macsen-sgwrsfot.git
$ cd macsen-sgwrsfot
( ... rhoi ffeiliau apikey.py i fewn ...)
$ make mysql
$ make build
$ make run